top of page

PROSIECT COETIR ANIAN

Roeddem mor gyffroes i gael gweithio gyda elusen Coetir Anian gyda ysgolion Corris a Phennal yn gynnar yn 2020. 

Gwariwyd diwrnod cyntaf y prosiect fyny mewn ardal o goedwig yng Nghanolbarth CYmru, lle cafodd y disgyblion y cyfle i ddysgu am y coed brodorol, cymeryd amser i fod o fewn natur, braslunio, chwarae, bwyta wrth y tân a dysgu am y bywyd gwyllt sy'n byw yno. 

Roedd cymeryd amser allan o fywyd arferol yn yr ysgol yn gyfle gwych i'r disgyblion. 

 

Yna, am 3 diwrnod, fe fuom yn creu gwaith celf fel ymateb i be ddysgon ni ar y diwrnod yn y goedwig. Roedd hyn yn cynnwys creu llyfrau braslunio a'u llenwi gyda gwaith celf megid printiadau o gylchoedd coed, paentiadau o adar brodorol, monoprints yn seiliedig ar y brasluniau o'r goedwig ac astudio palets lliwiau a gasglom. 

Yna, fel wnaethom baentio 4 murlun mawr a rgyfer waliau allanol yr ysgol o 4 coeden brodorol, Y Dderwen, Collen, Celynen a'r Griafolen, mewn steil graffiti! 

"Mae hyn yn cymaint o hwyl, dydy o ddim yn teimlo fel dysgu!"

Disgybl

bottom of page