top of page

PROSIECT HIRAETH

Pwrpas prosiect 'Hiraeth' oedd i gynnig cyfleoedd creadigol i deuluoedd o Ffoaduriaid ym Mhowys fyddai'n eu galluogi nhw i deimlo'n rhan o'r gymuned o'u cwmpas ac i gwrdd a phobl newydd.

Buom yn gweithio ar sesiynau celf yn Oriel Davies, Y Drenewydd, a gwahodd y teuluoedd i ymweld a Gwyl y pethau Bychain ar dren, gwyl i ddathlu Dydd gwyl Dewi a Chymreictod. Yma cawsom y cyfle i gwrdd a theuluoedd o ffoaduriaid sydd wedi ymsefydlu yn Aberystwyth, ac hefyd i gwrdd a phobl o'r gymuneda oedd yn awyddus iawn i'w cwrdd a'u helpu. 

 

Gwnaethom amrywiaeth o weithdai mewn ysgolion yn Y Drenewydd a Llandrindod, lle buom yn trafod diwylliant Cymru a Syria, rhannu straeon a cherddoriaeth. Gyda'r wybodaeth yma, bu'r plant yn brysur yn creu 'Buddy bench' ar gyfer iard yr ysgol, ti-pi straeon a murlun enfawr i atgoffa'r disgyblion bod gan pawb stori i'w rannu ac i barchu diwylliannau gwahanol. 

"Weithiau rydym yn teimlo'n unig ac rydym yn mwynhau traelio amser gyda'n gilydd. Cawsom hwyl ar y prosiect Hiraeth ac fe wnaeth y plant fwynhau'r gweithgareddau."

Mam

bottom of page