ALLDAITH FFRANGEG / TECSTILIAU YSGOL BRO HYDDGEN
Roedd hwn yn brosiect yn cynnwys pob disgybl ym Mlwyddyn 8 Ysgol Bro Hyddgen, tua 55 o ddisgyblion dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Fel ymateb i'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno'n raddol, bwriad y prosiect hwn oedd i gyfuno'r pynciau Ffrangeg a Thecstiliau.
Buom yn gweithio gyda'r disgyblion ar ei sgiliau braslunio ac yn arbrofi gyda defnyddiau gwahanol. Trafodom y berthynas rhwng geiriau a delweddau, ac edrych ar waith Peter Finnemore i drafod sut mae teitlau yn dylanwadu sut mae'r gwyliwr yn edrych ar ddarn o waith celf.
Yn gyfamserol, buodd yr Athrawes Ffrangeg yn trafod sloganau, geiriau a ffontiau, a buodd yr Athrawes Gelf yn trafod cyfuno ffotoraffiaeth gyda thecstiliau, ffontiau a geiriau.
Fe wnaeth pob disgybl greu darn o waith unigryw yn seiliedig ar ei diddordebau nhw.
Gwelwch fideo o'r prosiect yma:
"Mae'r disgyblion wedi creu darnau cwbwl unigryw sy'n cyfleu eu persenoliaeth nhw"