MURLUN BLODAU A CHREADURIAID BACH
Murlun yn seiliedig a'r y blodau a'r creaduriaid bach sydd o'm cwmpas. Darganfyddwch pwysigrwydd y pethau hyn sydd yn cael eu hanwybyddu yn aml.
Dysgwch yr enwau Cymraeg a Saesneg ar gyfer mathau gwahanol o flodau a chreaduriaid, ewch am dro oamgylch yr ardd gefn neu'r cae mawr, a nodwch eich darganfyddion.
Bydd y disgyblion yn creu murlun mawr fydd yn addas ar gyfer wal allanol yr ysgol neu man o'ch dewis.
Bydd Ennyn yn sicrhau bod y murlun yn barod ar gyfer ei arddangos tu allan. Bydd gofyn i'r ysgol neu sefydliad drefnu i godi'r murlun ar y wal.
Gwasgwch yma i weld fideo o un o'n prosiectau creu murlun.
Pris am weithdy un diwrnod
hyd at 20 disgybl - £240
hyd at 30 disgybl - £320
Gofynion y gweithdy - Ardal tu allan i archwilio, ardal mawr i baentio - neuadd yn ddelfrydol, sinc mawr.
Cyfeiriad e-bost: ennyncymru@gmail.com


"Dysgais bod natur yn bwysig a bod llawer o wahanol fathau o flodau ar ein stepen drws. Dysgais beth yw Gwyddfyd a'r Pabi Cymraeg."