top of page

PLAN BEE

Mae ENNYN CIC wedi derbyn bron i £5000 gan y Gronfa Loteri Fawr I gynnal prosiect yn llanbrynmair yn ystod 2020.

 

Bwriad ‘Plan Bee’ yw i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd peillwyr trwy gyfres o weithdai, tripiau a digwyddiadau gyda chroeso i bawb o bob oed.  Bydd rhain yn cynnwys gweithio gyda Helyg, darlunio, argraffu, brodwaith, troi coed,  ‘whittling’, gweithgareddau allgyrsiol I blant, sgyrsiau gan bobl leol, plannu coed, cyngor ar wenyn, creu corridor gwenyn gan arddio yn rheolaidd.

 

Hoffem wahodd pob aelod o’r gymuned, yn enwedig rhai sy’n teimlo’n unig neu yn ynysig. Ar hyn o bryd mae hyn hyd yn oed fwy perthnasol!

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect, ymunwch a'n grwp facebook:

PLAN BEE | LLANBRYNMAIR​

https://www.facebook.com/groups/607249506522626/

"Very interested to learn about this group - I had no idea such an initiative or group existed. I’m a beekeeper in Bont Dolgadfan, and extremely passionate about these little creatures."

Liz Chinderley

bottom of page