top of page

PWY YDYM NI?

Cafodd Ennyn ei sefydlu gan ddwy artist o Ganolbarth Cymru,  Nicky Arscott ac Elin Crowley.

Rhyngthym nhw, mae gennym 20 mlyned o brofiad yn cynnig gweithdai celf

i blant ac oedolion mewn ysgolion a chymunedau. 

Ar y wefan hon gwelwch engreifftiau o'n gwaith a syniadau ar gyfer gweithdai, ond os oes gennych syniadau

eich hunain gyda chyllid arbennig, mae croeso i chi gysylltu a ni i'w trafod nhw,

ac fe wnewn ni ein gorau i gynnig gweithdy sy'n gweithio i chi. 

Nicky.jpg

NICKY ARSCOTT

Cyfarwyddwr

Mae Nicky yn arlunydd ac yn fardd.  Mae hi'n hynod o weithgar ac wedi gweithio ar amrywiaeth ddiddorol o brosiectau, o greu toilet enfawr ar gyfer WaterAid i'w gludo i XXX yr Undeb Ewropeaidd, i osod 'maypole' rhyngweithiol yng Ngwyl y Gelli. 

Mae gan Nicky MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Texas, Austin. 

Mae ei angerdd am greu Comics Barddonol wedi ei galluogi hi i gydweithio gyda amrywiaeth o bobl a theithio i UDA ac i India gyda'r bardd Eurig Salisbury.

Mae Nicky yn byw yn Llanbrynmair, canolbarth Cymru gydai gwr a'u 2 o blant. 

elin.jpg

ELIN CROWLEY

Cyfarwyddwr

Mae Elin yn artist sydd wedi cael profiad o weithio mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys ar wefannau addysgiadol y BBC, fel rhan o dîm cynhyrchu i gwmni Teledu Fflic yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C, ac fel rhan o dim creadigol Cwmni Theatr Arad Goch.  Erbyn hyn, mae Elin yn canolbwyntio ar greu gwaith celf a chynnig gweithdai mewn ysgolion a chymunedau. 

O ganlyniad i'w phrofiad yn gweithio ar gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru - 'Ysgolion Creadigol Arweiniol' yn y blynyddoedd diwethaf, mae Elin yn awyddus i archwilio sut gall disgyblaethau creadigol gael eu uno, a sut gall gweithgareddau creadigol gyfrannu mewn ffordd positif tuag at agweddau dysgu y cyfranogwyr. 

Mae Elin yn byw ger Machynlleth gyda'i gŵr a'i 3 plentyn. 

jon_d+g.jpg

DR JON SHAW

Cyfarwyddwr

Mae Jon yn ddoctor ym Mro Ddyfi.  Mae o yn grediniol mewn rhoi presgripsiwn cymdeithasol ac yn gweld gweithgareddau celfyddydol yn cyfrannu at les unigolion a chymunedau.

 

Pan nad ydy yn y gwaith gallwch ddod o hyd iddo yn rhedeg mynyddoedd y canolbarth! 

WENDY.jpg

WENDY DAVIES

Cyfarwyddwr

Mae Wendy yn arddwraig brwd, yn fotanegwr amatur, ac yn angerddol am dyfu er llês bywyd gwyllt.

Erbyn hyn mae Wendy wedi ymddeol o ddysgu, ac yn dyfwr llysiau brwd i gadw cyflenwad yn ei chegin trwy'r flwyddyn. 

 

Dysgodd ei chrefft yn byw yn Aberyswtyth am 25 o flynyddoedd, ond wedi dychwelyd i fyw yn Llanbrynmair ers 12 mlynedd i daclo sialensau diddorol byw ar diroedd gwlypach. 

bottom of page