DOLAU DYFI
Cafodd Ennyn CIC arian gan brosiect 'Dolau Dyfi', prosiect sy'n ceisio gwella ac adfer cynefin blodeuol y gall pobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau ac a all roi budd hefyd i beillwyr, adar tir fferm a rhywogaethau eraill, yn ogystal â darparu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â natur.
Bydd PONT ac ENNYN CIC yn cydweithio i gyflwyno cyfres o weithdai cymunedol dan arweiniad artistiaid yn 2021, wnaiff esblygu'n i greu llyfr teithiau cerdded llawn gwybodaeth am flodau gwyllt ac hanes lleol, a map rhithiol sydd am gael ei lawnsio yng Nghwanwyn 2022.
mae gweithgareddau cymeunedol eisioes wedi digwydd mewn ysgolion lleol ac yng Ngerddi Bro Ddyfi, Machynlleth.
"“Fe wnes i fwynhaur trip cerdded yn fawr.
Roedd yn agoriad llygad gweld yr holl anifeiliaid a blodau gwyllt! Cefais ddiwrnod wrth fy mod! Diolch yn fawr”"