TYSTIOLAETH: TAIR CERDD
Mae TYSTIOLAETH: TAIR CERDD yn gomic wedi ei ysgrifennu gan y bardd Eric Ngalle Charles, gyda darluniau gan Nicky Arscott. Cyfieithwyd gan Casia Wiliam ac Ifor ap Glyn. Mae’n archwilio themau yn ymwneud ac allfudo, chwilio am loches, adrodd storiau a thrawma.
Cafodd y prosiect hwn ei gefnogi gan Wales PEN Cymru.
Cliciwch yma i weld copi o
TYSTIOLAETH: TAIR CERDD
Yn Arabeg - yma
Cliciwch yma ar gyfer canllawiau syn' cynnwys syniadau am gynlluniau gwersi ar gyfer athrawon Cymraeg a Saesneg (iaith, barddoniaeth, ysgrifennu creadigol); Celf (dilyniant delweddau, comics barddonol), ac Addysg Personol a Chymdeithasol / Dinasyddiaeth ar lefel CA3 ac uwch. Powerpoint yma. Mae’r adnodd yn cynnwys thamu sensitif a delweddau sy’n gysylltiedig a rhyfel, gwrthdaro ac allfudo.
Fideo gan Nicky, Eric ac Eurig Salisbury yma
“Pan o’n i’n blentyn ro’n i’n meddwl bod barddoniaeth ar gyfer pobl eraill. Fe gymerodd hi flynyddoedd i mi ddod o hyd i’r prydferthwch a’r cymhlethdod o fewn barddoniaeth. Hoffwn helpu plant fel y plentyn yr oeddwn i i ddarganfod y grefft yma o ysgrifennu yn gynt... yn briod gyda delweddau mae’n dod yn hyd yn oed fwy pwerus”