DOLAU DYFI
Fel rhan o brosiect Dolau Dyfi, comisiynodd Ennyn gan gan y caneuwr gwerin Owen Shiers.
Mae Owen wedi gosod cerdd gan Crwys i gerddoriaeth gan greu can hynod o brydferth. Mae'r gerdd yn disgrifio gardd fach perlysiol oedd gan ei fam ac yn cynnwys nifer o gyfeiriadau ar wahanol blanhigion oedd y werin yn defnyddio er mwyn gwella ei hunain.
Dyma'r geiriau ar gyfer y gân:
Y Border Bach
Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai’r ardd yn ddwy,
‘Roedd gan fy mam ei border bach
O flodau perta’r plwy.
Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna’n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i’w rhan.
A, rywfodd, byddai lwc bob tro,
Ni wn i ddim paham,
Ond taerai ‘nhad na fethodd dim
A blannodd llaw fy mam.
Blodau syml pobol dlawd
Oeddynt, bron bob un,
A’r llysiau gwyrthiol berchid am
Eu lles yn fwy na’u llun.
Dacw nhw: y lili fach,
Mint a theim a mwsg,
Y safri fach a’r lafant pêr,
A llwyn o focs ynghwsg;
Dwy neu dair brlallen ffel,
A daffodil, bid siŵr,
A’r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw ‘hen ŵr’.
Dyna nhw’r gwerinaidd lu,
Heb un yn gwadu’i ach,
A gwelais wenyn gerddi’r plas
Ym mlodau’r border bach.
O bellter byd ‘rwy’n dod o hyd
I’w gweld dan haul a gwlith,
A briw i’m bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith.
Hen estron gwyllt o ‘ddant y llew’,
A dirmyg lond ei wên.
Sut gwyddai’r hen doseddwr hy
Fod Mam yn mynd yn hen?
gan William Williams Crwys
Cliciwch ar y chwareuwr isod i glywed y gânfendigedig gan Owen Shiers:


“Mae natur yn ysbrydoli fy ngherddoriath. Mae'n rhywle rwy'n dianc i gael heddwch. Rhywle sy'n cynnig ei hun i'r dychymyg. Rhywle arallfydol sy'n wahanol i fywyd pob dydd.”